CROESO I GARTREF APP CYMUNEDOL TREF 

Aberaeron

“Ar Gyfer Ein Cymuned”

“Cefnogi Busnesau Lleol”

“Cymorth i’n Hymwelwyr”

Ar Gyfer Pwy Mae’r App?

 

Y Gymuned, Busnesau Lleol ac Ymwelwyr i’r Dref

Amcan yr App, a gomisiynwyd gan Gyngor Tref Aberaeron, yw i hybu tref Aberaeron a, drwy gyfrwng technoleg, cynorthwyo adferiad Trefi Gwledig Cymru.

Mae’r App wrthi’n cael ei ddatblygu a chaiff ei gyhoeddi ar gyfer lawrlwythiadau o fewn y deufis nesaf.

Ond mae angen eich cymorth chi arno ni!  Mae angen i ni gasglu’r holl data ar gyfer y rhestrau Busnes a Chymunedol – fe allwch wneud hyn drwy’r wefan yma. Os taw prosiect cymunedol, elusen lleol, clwb neu gorff, clwb chwaraeon ayb. Yna cliciwch ar y ddolen isod er mwyn danfon eich manylion atom i’w cynnwys ar yr App yn rhad ac am ddim.

Os taw busnes lleol ydych chi, yna cliciwch ar y Ddolen Gofrestru

 

Adnodd Rhad ac Am Ddim i’r Gymuned Leol

Fe fydd yr App ar gael i’w lawrlwytho am ddim ar gyfer dyfeisiau Android ac Apple ble dowch o hyd i wybodaeth ynghyd â dolenni defnyddiol.

Annog Pobl i Siopa’n Lleol

Rydym am sicrhau fod holl fusnesau Aberaeron yn cael eu cynnwys yn yr App, nid y rhai manwerthu’n unig. Rhoi cyfeirlyfr lleol ym mhocedi’r gymuned leol.

Cymorth Gyda Hybu Pethe Aberaeron

Yn wyliau neu gigs mewn tafarn, rydym yn darparu’r ffordd orau o roi gwybod i bawb yr hyn yr ydych yn ei wneud, a phryd a lle, y cyfan ar un App. 

Ydych Chi’n Cynnal Gwasanaeth Cymunedol Lleol?

Ydych Chi’n Rhedeg Busnes Lleol?

Rhestrwch fan hyn nawr!

Dylech ddefnyddio’r ffurflen gyswllt hon os oes gennych unrhyw gwestiwn neu broblem ynghylch y ffurflenni gofrestrums